Tryloywder

Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw yn y modd mae’n cyflawni ei swyddogaethau. Fel cyrff plismona eraill, mae’r Awdurdod yn cyhoeddi gwybodaeth allweddol ynglŷn ag aelodau’r Awdurdod, ei staff, y ffordd mae’n gwneud penderfyniadau a’r modd y bydd yn rheoli ei gyllid. Gweler mynegai isod fydd yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r wybodaeth yma. Pe bai angen cymorth arnoch i ddod o hyd i’r hyn yr hoffech, byddwch cystal â dod i gyswllt  â ni ar [email protected]

Ynglŷn â’r Awdurdod
Gellir dod o hyd i enw a manylion Aelodau’r Awdurdod, lwfansau, treuliau a mwy yn adran yr aelodau .

Cedwir 
cofrestrau rhoddion a lletygarwch i staff ar gyfer Aelodau’r Awdurdod  ac uwch staff Gweithredol.

Incwm a Gwariant
Caiff yr Heddlu Tranfidiaeth Prydeinig ei ariannu gan y cwmniau sy’n darparu gwasanaethau teithwyr, llwythi ac isadeileidd ar reilffyrdd ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae Awdurdod yr Heddlu yn ymrwymo i Gytundeb Gwasanaeth Heddlu gyda phob un o’r cwmniau hyn, gan ddangos y lefel o adnodd plismona a gaiff ei ddyranu i’w linell a’i wasanaethau. Mae’n cynnal trefniadau tebyg gyda Network Rail a London Underground.

Yr Awdurdod sydd hefyd yn cadw cyfrifon Cronfa’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac sy’n gwneud trefniadau i gynnal awdit o’r cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl (gan gynnwys eiddo a rhwymedigaethau) yn y datganiadau ariannol a gafodd eu harchwilio yn yr adran Gyllid.

Gwariant dros £500
Cyhoeddir manylion holl daliadau anfoneb, taliadau grant a thrafodion tâl eraill dros £500 a wneir gan yr Awdurdod a’r Heddlu Trafnidiath Prydeinig, fel yr adroddir i’r Adran Drafnidiaeth, gan wefan GOV.uk a gellior dod o hyd iddyn nnhw ar y ddolen gyswllt yma.

Penderfyniadau
Gwneir yr holl benderfyniadau gan yr Awdurdod oni bai eu bod wedi cael eu dirprwyo’n benodol i Bwyllgor a’u hymgorffori yn ei gylch gorchwyl. Gellir dod o hyd i gofnodion cyfarfodydd (gan gynnwys papurau, cofnodion a mwy) yn yr adran Pwyllgorau.

Polisiau
Gellir dod o hyd i’r ystod o bolisiau y mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn  gweithredu oddi tanyn nhw yn yr  adran Polisiau.

Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd
Gellir dod o hyd i fanlynion ynglŷn â’r trefniadau mewn perthynas ag ymwelwyr annibynnol â dalfeydd a benodwyd gan yr Awdurdod yma.