Dyletswyddau a chyfrifoldebau

Mae Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth (BTPA) yn gyfrifol am sicrhau cael heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer y rheilffyrdd. Cafodd ei sefydlu gan Ddeddf y Rheilffyrdd a Diogelwch Trafnidiaeth 2003, sydd yn amlinellu nifer o gyfrifoldebau ar gyfer yr Awdurdod.

Gosod strategaeth yr Heddlu Trafnidaeth Prydeinig
Yr Awdurdod sydd yn gyrifol am osod amcanion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) cyn dechrau pobl blwyddyn ariannol. Awdurod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sydd yn cyhoeddi’r amcanion hyn, yn ogystal â’i gyfeiriad strategol ac adolygiad perfformiad yr Heddlu drwy gyfrwng nifer o gyhoeddiadau:

Mae’r Cynllun Plisomona blynyddol yn cynnwys blaenoriaethau’r Awdurdod ar gyfer y flwyddyn, yr adnoddau ariannol mae’n disgwyl i fod ar gael er mwyn cyflenwi’r cynllun a sut mae’n cynnig dyrannu’r adnoddau hynny
Mae’r Cynllun Strategol yn amlinellu strategaethau canol a hir dymor yr Awdurdod ar gyfer plismona’r rheilffyrdd
Yn olaf, caiff yr Adroddiadau Blynyddol eu cyhoeddi ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol ac maent yn cynnwys plismona’r rheilffyrdd am y flwyddyn honno.
Ariannu a chyllid yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Yn ogystal â bilio’r diwydiant rheilffyrdd am gostau rhedeg yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yr Awdurdod sydd yn penderfynu ar gyllid yr heddlu ac sy’n dyrannu adnoddau i adrannau unigol ohonno. Yr Awdurdod sydd yn cadw cyfrifon yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac sy’n gwneud trefniadau i gynnal awdit o’r cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Cytundebau Gwasanaeth Heddlu
Mae’r Awdurdod yn ymrwymi i gytundebau gyda chwmniau gweithredu trenau a llwythi er mwyn darparu gwasanaeth plismona i’w rheilffordd neu eiddo’r rheilffordd. Yn y cytundebau hyn, a elwir yn Gytundebau Gwasanaeth Heddlu (PSAs), mae gofyn i’;r cwmniau wneud taliadau am y gwasanaeth. Pan fydd masnachfraint newydd, er enghraifft , yn cael ei wobrwyo gan yr Adran Drafnidiaeth, bydd gofyn fel arfer i’r cwmni buddugol i ymrwymo i Gytundeb Gwasanaeth Heddlu newydd neu gyfredol gyda’r Awdurdod.

Penodiadau
Yr Awdurdod sydd yn gyfrifol am recrwitio uwch swyddogion a staff yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a staff yr Awdurdod.

Ymgynghoriad cyhoeddus
O bryd i’w gilydd, mae’n ofynnol i’r Awdurdod wneud ac adolygu trefniadaui sgwrsio gydag aelodau’r gymuned rheilffyrdd er mweyn cael eu barn ar blismona’r rheilffyrdd. Ymhlith eraill, mae gofyn iddo ymgynghori â theithwyr ar y rheilffyrdd, gweithwyr a’r diwydiant.

Rheoleiddiad yr Heddlu Trafnidaeth Prydeinig
Yn yr un modd â lluoedd y Swyddfa Gartref, lle gellir codi rheoleiddiadau o dan adrannau 50-52 o Ddeddf yr Heddlu 1996, mae gan yr Awdurdod y gallu i adlewyrchu newidiadau o’r fath ar gyfer yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fel y disgrifir gan Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidaeth 2003. Mae angen cael cymeradwyaeth gan y Prif Gwnstabl, cymdeithasau staff a’r Ysgrifenydd Trafnidiaeth ar unrhyw reoleiddiadau o’r fath.