Pwyllgorau

yr Awdurdod Llawn
Ceir 12 aelod ar hyn o bryd sydd yn gwasanaethu ar yr Awdurdod, gan gynnwys cadeirydd a dirprwy gadeirydd, a benodir gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth. Mae gofyn fod gan Aelodau wybodaeth ynglŷn ag ystod o safbwyntiau o’r diwydiant rheilffyrdd a theithwyr ar y rheilffyrdd. Hysbysebir swyddi gwag gan Yr Adran dros Drafnidiaeth a chânt eu llenwi pan fydd gofyn. Cworwm cyfarfodydd yr Awdurdod Llawn yw hanner plws un o’r Aelodaeth.

Mae cyfarfodydd yr Awdurdod ar agor i aelodau’r cyhoedd. Dylai unrhyw un sy’n dymuno dod gysylltu â ni.

Penodiadau, Taliadau Cydnabyddiaeth ac Arfarniad
Mae cyfrifoldeb wedi cael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Penodiadau, Taliadau Cydnabyddiaeth ac Arfarniad gan yr Awdurdod i gymeradwyo pecynnau cydnabyddiaeth ariannol a thâl sy’n gysylltiedig â pherfformiad ar gyfer penodiadau gweithredol yn yr Awdurdod a phrif swyddogion a’u cyfateb yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Cworwm y pwyllgor yw hanner yr Aelodaeth.

Awdit a Sicrwydd Risg
Mae’r pwyllgor yma’n adolygu materion mewn perthynas ag awdit mewnol ac allanol yr Awdurdod ac yn rhoi cyngor ynglŷn â nhw. Mae hefyd yn cynnig barn ar effeithiolrwydd y prosesau monitro a ph’un a ellir dibynu ar yr holl systemau rheoli mewnol. Cworwm y pwyllgor yw hanner yr Aelodaeth.

Perfformio a Chyflawni
Mae’r pwyllgor hwn yn adolygu perfformiad diweddar yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Cworwm y pwyllgor yw hanner yr Aelodaeth.

Pobl a Diwylliant
Ar ran yr Awdurdod, mae’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant yn goruchwylio ac yn arfarnu ymagwedd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig tuag at faterion sydd yn ymwneud â phobl, diwylliant, arweinyddiaeth ac ymddygiad. Pedwar Aelod o’r Awdurdod sy’n ffurfio aelodaeth y pwyllgor.

Strategaeth a Chynllunio

Gweithgor Buddsoddi a Thrawsnewid
Mae’r Gweithgor Buddsoddi a Thrawsffurfio yn cyfrannu tuag at gyflawniad a goruchwyliad rhaglen newid yr Heddlu sydd ar ddod, A Force on the Move, drwy gynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad manwl a chyngor ar ran Pwyllgor Strategaeth a Chynllunio’r Awdurdod. Byddwch cystal â nodi mai Gweithgor yw hwn ac felly nid yw ei gyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd.

Gweithgor Strategaeth
Mae’r gweithgor hwn yn cefnogi dyletswyddau statudol Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fel yr amlnellir o fewn Deddf Diogelwch y Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 drwy oruchwylio datblygiad Cynllun Strategol. Unwaith y caiff ei ddatblygu, caiff y cynllun ei gyflwyno i’r Pwyllgor Strategaeth a Chynllunio a’i anfon ymlaen i’r Awdurdod Llawn er mwyn cael ei gymeradwyo. Byddwch cystal â nodi mai Gweithgor yw hwn ac nid yw ei gyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd.

Gweithgor Ymygysylltu Rhanddeiliaid
Mae’r Gweithgor Ymgysylltiu Rhanddeiliaid yn goruchwylio ac yn cynghori ar gyfathrebiad ac ymgysylltiad yr Awdurdod gyda’r diwydiant, y cyhoedd a rhanddeiliaid pwysig eraill. Bydd y pwyllgor yn goruchwylio aliniad ymgysylltiad rhanddeiliaid yr HeddluTrafnidiaeth Prydeinig a’r Awdurdod, yn ogystal â chynnydd y Cynllun Plismona a’i ymgysylltiadau adnewyddu blynyddol.