Aelodau

Mae Aelodau Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn mynychu chwe chyfarfod blynyddol yr Awdurdod Llawn. Cânt eu rhannu’n bwyllgorau a gweithgorau llai er mwyn cynnal tasgiau mwy penodol.

Ceir hyd at 15 o lefydd ar y Bwrdd, gan gynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd, wedi;u penodi gan yr Ysgrifenydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Mae gofyn fod gan Aelodau wybodaeth ynglŷn ag ystod o safbwyntiau o’r diwydiant rheilffyrdd a theithwyr ar y rheilffyrdd. Hysbysebir swyddi gwag gan Yr Adran dros Drafnidiaeth a chânt eu llenwi pan fydd gofyn.

Aelodau awdurdod yr heddlu