Cymraeg

Amdanom ni

BTPA yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am sicrhau heddlu effeithlon ac effeithiol i weithredwyr rheilffyrdd, eu staff a’u teithwyr. Mae ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau’n debyg i rai Awdurdod Heddlu’r Alban neu gomisiynydd yr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr, ond mae’n goruchwylio llu sy’n gyfrifol am blismona ardal lawer ehangach – rheilffyrdd Prydain Fawr.

Ar hyn o bryd mae 12 aelod o awdurdod yr heddlu sy’n darparu gwybodaeth a phrofiad o faterion sy’n ymwneud รข theithwyr, y diwydiant rheilffyrdd a chyflogeion y rheilffordd. Maen nhw’n cwrdd chwe gwaith y flwyddyn i osod targedau i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, monitro ei gweithrediadau a dyrannu arian ar gyfer ei gyllideb.

Rhagor amdanom ni:

Yr Awdurdod Llawn | Newyddion Diweddaraf | Calendr