Mae’r strategaeth yma’n gymwys ar gyfer 2022-27 ac wedi cymryd y risgiau a’r cyfleoedd dros y cyfnod hwn i ystyriaeth. Bydd y blynyddoedd sydd wedi’u cynnwys o fewn y strategaeth yn gweld newidiadau hir-dymor i deithiau gan deithwyr a ffyrdd o weithio yn cael eu dylanwadu gan y pandemig, y camau cyntaf yn rhaglen uchelgeisiol y Llywodraeth o ddiwygio’r rheilffyrdd, cynyddu traffig llwythi, a chyflenwi gwasanaethau newydd. Bydd yr holl ffactorau hyn yn dylanwadu’r galw am ein gwasanaethau plismona, sut ceir mynediad at y gwasanaethau hyn, sut y byddwn yn eu cyflenwi a’r partneriaethau a ddefnyddiwn fydd yn cyflawni’r llwyddiant hyn.
Ein blaenoriaethau
Anelir ein strategaeth o amgylch ein gweledigaeth a’n cenhadaeth ac fe gaiff ei gyflenwi drwy 6 nod:
Atal trosedd a diogelu er mwyn lleihau tebygrwydd pobl o ddod i niwed ar y rheilffyrdd
Targedu ein hymfrechion i sicrhau llai o ddioddefwyr o’r troseddau mwyaf difrifol
Arloesi a chydweithio gyda’n partneriaid i leihau aflonyddwch
Adeiladu ymddiriedaeth a hyder teithwyr a staff y rheilffyrdd i drechu troseddolrwydd gyda’n gilydd
Cynhyrchu gwerth am arian drwy ecsploetio technoleg, gan addasu i gwrdd รข’r dyfodol
Adeiladu Llu modern a chynhwysol lle mae gan ein pobl gyfarpar da, wedi’u hyfforddi’n dda, yn cael gofal da ac yn adlewyrchu’n cymunedau ar eu gorau
Y cyd-destun
Rydym wedi seilio ein strategaeth ar y rhagdybiaethau canlynol.
Bydd y rheilffyrdd, y rheilffyrdd tanddaearol, y systemau tram a metro yn cynyddu yn eu pwysigrwydd yn ystod bywyd ein strategaeth. O’u cyfuno gydag agenda ffyniant bro y Llwyodraeth, cysylltu cymunedau a chynaladwyedd amgylcheddol, bydd y dulliau hyn o drafnidaeth yn allweddol i economi’r DU.
Bydd angen i’r rheilffyrdd addasu i heriau sylweddol; o’r angen byr-dymor i adeiladu hyder teithwyr yn dilyn y pandemig i addasu newidadau hir-dymor yn y nifer sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd pwysau ariannol yn parhau i fod yn sylweddol wrth i ddarparwyr rheilffyrdd adasu eu model busnes i ddiwallu’r galw newydd. Mewn amgylchedd ansicr, rhaid i ni fod yn ystwyth yn ein agwedd tuag at newid.
Mae rdiwygiad mawr yn digwydd i reilffyrdd Prydain o ganlyniadi i argymhellion Williams-Shapps. Bydd rheolaeth gwasanaethau rheilffyrdd yn cael ei drawsffurfio wrth greu Rheliffyrdd Prydain Fawr (Great British Railways) a bydd y diwygiad yn cyflenwi gwellianau i brofiad teithwyr a chwsmeriaid llwythi.
Bydd llwyddiant rheilffyrdd yn y pen draw yn ddibynol ar wasanaethau mwy integredig ac effeithlon, gwell dibynadwyedd, cynnydd yn y defnydd o lwythi a gwell profiad i deithwyr fydd yn rhoi teimlad o ddiogelwch a sicrwydd.
Ceir amgylchedd diogel o ganlyniad i bartneriaeth plismona, diwydiant, diogelwch proffesiynol, sefydliadau lles a’r cyhoedd. Mae diwygio’r rheilffyrdd yn cynnig cyfle i ddyfnhau’r partneriaethau hyn i gyflenwi plismona a diogelwch mewn modd mwy cydlynus, effeithiol ac effeithlon nac erioed o’r blaen.