Cwynion
Cwynion y byddwn yn eu trin
Bydd yr Awdurdod yn trin cwyn a wnaed gan unrhyw un yn erbyn :
Aelod neu weithiwr cyflogedig o Awdurdod yr Heddlu
Y Prif Gwnstabl, Y Dirprwy Prif Gwnstabl a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol
Cwynion na fyddwyn yn ymwneud â nhw
NId yw’r Awdurdod yn ymwneud â’r cwynion canlynol :
Yn erbyn swyddogion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sydd yn is na’r rhengoedd uwch
Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â gwneud cwyn mewn perthynas â’r heddlu ar gael o’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu ar gael o’r Swyddfa Annibynnol dros Ymddygiad yr Heddlu (Cymru a Lloegr) neu Comisiynydd Ymchwilio ac Adolygu’r Heddlu’r Alban.
Cwynion yn erbyn swyddogion neu staff eraill yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Yn gyffredinol, nid yw’r Awdurdod yn ymwneud â’r cwynion hyn. Os hoffech wneud cwyn am swyddog neu aelod o staff yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, byddwch cystal â chyfeirio at yr adran Gwynion ar wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Ni all Heddweision na staff wneud cwynion yn erbyn aelod o’u heddlu eu hunain neu heddlu arall sydd yn deillio o’u dyletswydd gweithredol eu hunain. Dylid codi unrhyw bryderon drwy sianeli rheolaeth, ac mae gan swyddogion a staff ddyletswydd cyffedinol i wneud hynny. Ni all cyn heddweision na staff wneud cwynion yn erbyn rhywun mewn perthynas â digwyddiad a ddigwyddodd yn ystod yr amser fuon nhw’n gweithio dros yr Heddlu.
Achwyniadau
Bydd yr Awdurdod yn ymdrin ag unrhyw gwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl ac unrhyw apêl sy’n deillio o gwyn yn erbyn y Dirprwy Brif Gwanstabl. Staff a swyddogion a gyflogir ar hyn o bryd gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn unig all wneud achwyniadau. Os ydych yn dymuno cofrestru achwyniad, byddwch cystal â dod i gyswllt â Phennaeth Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth yr Awdurdod, drwy e-bost neu bost.