Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sefydlu fod gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd cyffredinol wrth weithredu eu swyddogaethau i roi sylw dyladwy i’r angen;
- I ddifa camwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n waharddiedig gan neu o dan y Ddeddf
- I hyrwyddo cydradoldeb cyfle rhwng pobl sydd yn rhannu nodwedd warchodedig perthnasol a phobl nad sy’n ei rannu.
- I feithrin perhynas dda rhwng pobl sydd yn rhannu nodwedd warchodedig perthnasol a’r sawl sydd ddim yn ei rannu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r dyletswyddau hyn, byddwch cystal ag ymweld â gwefan yr Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae’r un ddeddf hefyd yn sefydlu dyletswyddau penodol ar gyfer cyrff cyhoeddus a restrir yn atodlen 1 i reoliadau’r Ddeddf Cydraddoldeb i gyhoeddi gwybodaeth cydraddoldeb sydd yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r ddyletswydd gyffredinol.
Sefydlwyd Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig gan Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 ac er ein bod ar hyn o bryd nad ydym wedi cael ein henwi’n benodol yn yr atodlen, deallwn pa mor bwysig yw hi i ddefnyddwyr ein gwasanaeth a’n gweithwyr cyflogedig i ddeall sut mae’r Awdurdod yn gwneud pendefyniadau busnes ac yn cynnal ei swyddogaethau eraill.
Byddwch cystal â dod i gyswllt â Phwyllgor Gwaith yr Awdurdod os oes gyda chi unrhyw ymholiadau.